Gweithio GARTREF - Covid – 19

Gwaith ar lein i ddisgyblion.


Mae staff wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn paratoi gwaith ar lein ar Hwb i bob un disgbl – maent wrthi am oriau i sicrhau digon o waith a lein i bob un plentyn.

Dysgu ar lein.


Bydd athrawon yr Ysgol yn cyflwyno gwaith ar lein ar Google Classroom o dydd Llun, 22ain o Fawrth ymlaen.
Bydd canllawiau cefnogaeth digidol ar Wefan yr Ysgol o dydd Llun, 22ain o Fawrth ymlaen.
Os ydych angen cefnogaeth ychwanegol gallwch gysylltu a – digidol@broidris.gsuite.cymru

Amserlen Disgyblion


Disgyblion Ffês 1 – Derbyn – Bl 4

Disgwylir i bob disgybl (os yn iach) gwblhau o leiaf dwy awr o waith gyda darllen a dysgu tablau yn ychwanegol.

Ffês 2 – Bl 5 – 8

Disgwylir i bob disgybl (os yn iach) gwblhau o leiaf tair awr o waith gyda darllen a dysgu tablau yn ychwanegol.

Ffês 3 – Bl 9 a 10

Disgwylir i bob disgybl (os yn iach) gwblhau o leiaf pedair awr o waith gyda darllen yn ychwanegol. Dylai’r gwaith gael ei gwblhau yn ddigidol, fodd bynnag os nad yw hyn yn bosib dylir cwblhau y gwaith yn eu llyfrau pynciau.

 

Apiau Defnyddiol


 


 

Os ydych angen cefnogaeth ychwanegol gallwch gysylltu a – digidol@broidris.gsuite.cymru