Ysgol

Cwricwlwm Newydd i Gymru


Man cychwyn ein Cwricwlwm yw ‘4 diben y Cwrilwlwm’ yn ôl yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus.’ Ceisir sicrhau bod yr addysg sydd yn cael ei chynnig yn eang a chytbwys. Credir y bydd yr addysg yn hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwyllianol, meddyliol a chorfforol pob plentyn sydd yn yr ysgol. Rydym hefyd am wneud yn siwr fod y cwricwlwm yn addas ar gyfer pob plentyn, yn eang ac yn gytbwys. Rhoddir blaenoriaeth i ddefnyddio holl gyllid yr ysgol i ymestyn adnoddau addysgol ar gyfer y plant sydd yn yr ysgol yn bresenol.Ymhelaethir ar yr elfen hon yn ein Polisi Cyfle Cyfartal,Anghenion Addysgol Arbennig a Hiliol.

Cyfnod Sylfaen
Nid yw plant dan 7 oed yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn hytrach darperir cwricwlwm sydd yn hybu datblygiad a dealltwriaeth mewn chwe maes:

  • Iaith, llythrennedd a sgiliau chyfathrebu.
  • Datblygiad personol a chymdeithasol.
  • Datblygiad mathemategol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd.
  • Datblygiad corfforol.
  • Datblygiad creadigol.

Cyfnod Allweddol 2 a 3
Cyflwynir y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ffurf gweithgareddau thematig a phynciol. Seilir y gwaith thematig ar 6 Maes Profiad a Dysgu yn Adroddiad ‘Dyfodol Llwydiannus’ yr Athro Donaldson.

Pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol
Pynciau Craidd: Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth;
Pynciau Sylfaen: Hanes, Daearyddiaeth, Celf,Technoleg,Technoleg
Gwybodaeth,Addysg Gorfforol a Cherddoriaeth, Ffrangeg (yn achlysurol yn CA2, ac yn wythnosol yn CA3.)

Medrau Sylfaenol
Mae gan yr ysgol bolisi i hybu medrau sylfaenol y disgyblion - Llythrennedd,
Rhifedd a TGCH ar draws y cwricwlwm.

Cyfnod Allweddol 4 (Blynyddoedd 10 ac 11)
Bydd pob disgybl yn dilyn cyrsiau mewn Cymraeg (Iaith/Llenyddiaeth); Saesneg (Iaith/Llenyddiaeth); Mathemateg a Mathemateg - Rhifedd; Gwyddoniaeth; Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac yn dewis pynciau eraill o feysydd Technoleg, Dyniaethau, Celfyddydau Creadigol a Mynegiannol ac Iaith Dramor. Byddant hefyd yn derbyn gwersi Addysg Gorfforol.

Bydd y Craidd Addysg Bersonol yn cael ei gyflwyno ar wahanol adegau yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 yn cynnwys Addysg Grefyddol a Moesol, Cyngor Gyrfaoedd, Profiad Menter, Sgiliau Astudio,Addysg Iechyd,Addysg Rhyw, Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd Eang.