Amddiffyn Plant
Canllawiau Amddiffyn Plant Gwynedd
Swyddog Dynodedig Amddiffyn Plant yw Mr Gareth Roberts a’r Dirprwy
Swyddogion Amddiffyn Plant yw Penaethiaid Safle, sef:
Awel Davies (Ysgol Bro Idris, prif safle, Dolgellau)
Heulwen Rowlands (Ysgol Bro Idris, Dinas Mawddwy)
Elliw Saunders (Ysgol Bro Idris, Rhyd-y-main)
Steffan Rhys Nutting (Ysgol Bro Idris, Dolgellau)
Sioned Roberts (Ysgol Bro Idris, Y Friog)
Nia Roberts (Ysgol Bro Idris, Llanelltyd)
Mae’r aelodau staff uchod wedi’u hyfforddi hyd at Lefel 2 Amddiffyn Plant.
Y Llywodraethwraig Dynodedig Amddiffyn Plant yw Mr Prideaux Hattle.
Bydd yr ysgol yn cyfeirio achosion at y Swyddog Lles, Gwasanaethau
Cymdeithasol / Heddlu yn unol â’r polisi Amddiffyn Plant.
Beth yw cam-drin plant?
Dyma ddywedir yn y ddogfen Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan:
“Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso plentyn drwy beri niwed
iddo, neu drwy fethu gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu
cam-drin mewn sefyllfa o fewn y teulu neu o fewn sefydliad, gan y
rhai sy’n eu hadnabod, neu yn llai aml, gan rywun dieithr. Gall
plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed ddioddef camdriniaeth neu
esgeulustod a bod angen eu hamddiffyn drwy Gynllun Amddiffyn
Plant rhyngasiantaethol.”
Y categorïau o gamdriniaeth plant:
- Esgeulustod: methiant parhaus i ddiwallu anghenion sylfaenol a/neu
seicolegol plentyn
- Corfforol: gall gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi/sgaldio,
boddi,mygu, salwch ffug
- Emosiynol: gwneud i blant deimlo eu bod yn ddiwerth, disgwyliadau
anaddas i'w hoedran/datblygiad
- Rhywiol: gorfodi neu ddenu plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau
rhywiol, os ydynt yn gwybod beth sy’n digwydd ai peidio
Cylchlythyr Amddiffyn Plant Ysgol Bro Idris - cliciwch yma