Mae Blwyddyn 10 wedi bod yn hynod ffodus i gael arlunydd lleol, Tyr Pinder, i ddod i'r ysgol i rhoi rhai gwersi lluniadu bywyd. Dechreuon nhw drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau i gynhyrchu ffurfiau corff sylfaenol iawn i chwilio am dôn a defnyddwyd pastelau o wahanol liwiau i ddangos hyn. Maent wedi cael y cyfle i dynnu llun o fywyd a datblygu eu sgiliau dros y 3 wythnos. Bydd eu gwaith yn cael ei arddangos yn Celf Aran Arts, Ty Siamas, Dolgellau trwy gydol mis Ionawr felly gwnewch yn siwr eich bod yn dod i mewn i weld beth maent wedi ei gyflawni.
|